Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd/Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 20
Hydref 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol")
(30 munud)
3 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(15 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
4 I'w gyflwyno fel Datganiad Ysgrifenedig - Datganiad gan y Prif Weinidog: Y sefyllfa bresennol o ran Cysylltiadau Rhynglywodraethol
(0 munud)
5 Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Cyllid ar gyfer Bysiau
(45 munud)
6 I'w gyflwyno fel Datganiad Ysgrifenedig - Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cynllun Drafft ar gyfer Trechu Tlodi Tanwydd yng Nghymru
(0 munud)
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 7-8 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:
(30 munud)
7 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020
NDM7435 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Hydref 2020.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
8 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) (Bangor) 2020
NDM7434 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) (Bangor) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Hydref 2020.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
9 Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020
(15 munud)
NDM7436 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Medi 2020.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
10 Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020
(15 munud)
NDM7437 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Medi 2020.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog
(5 munud)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i ddadl ar NDM7441 gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 20 Hydref 2020.
11 Dadl: Coronafeirws
(90 munud)
NDM7441 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd
1. Yn cydnabod difrifoldeb y sefyllfa a grëwyd gan y niferoedd cynyddol o achosion a difrifoldeb COVID-19 yng Nghymru a’r niferoedd cynyddol o bobl sydd yn yr ysbyty ac mewn Unedau Gofal Dwys o ganlyniad;
2. Yn cytuno y dylid cyflwyno ‘cyfnod atal byr’, fel y cynigiwyd gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) a Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru, er mwyn gostwng yr R, lleihau cadwyni o drosglwyddiadau pellach, cyfyngu i’r eithaf ar glystyrau o haint yn y gymuned a chryfhau’r system Profi Olrhain Diogelu ymhellach;
3. Yn cytuno bod rhaid i gyfnod atal byr gael ei seilio ar gymorth ychwanegol i ddiogelu ffyrdd o fyw a llesiant ac yn nodi’r ddarpariaeth o gymorth ariannol brys a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y cyfnod atal byr.
Cyd-gyflwynwyr
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y tueddiadau diweddar yn nifer yr achosion o ganlyniad positif mewn profion COVID-19 yng Nghymru a nifer y bobl mewn ysbytai ac unedau gofal dwys sydd gyda COVID-19.
2. Yn mynegi siom ynghylch methiant Llywodraeth Cymru i gyhoeddi digon o ddata a thystiolaeth i ddangos bod cyfnod atal byr ar gyfer pob rhan o Gymru naill ai'n gymesur neu'n angenrheidiol.
3. Yn credu bod yn rhaid i unrhyw gyfyngiadau coronafeirws gael eu hategu gan gymorth i'r rhai yr effeithir yn andwyol arnynt, gan gynnwys cymorth i fusnesau, bywoliaeth a lles.
4. Yn croesawu'r cymorth ariannol digynsail gan Lywodraeth Ei Mawrhydi, gan gynnwys mwy na £4.4 biliwn i helpu i ymateb i heriau pandemig y coronafeirws.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried ei strategaeth coronafeirws a mabwysiadu dull mwy penodol o ymyrryd.
Gwelliant 4 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cytuno y dylid defnyddio'r capasiti presennol yn llawn ac y dylai'r adnoddau ychwanegol sy'n angenrheidiol gael eu darparu fel mater o frys i system profi olrhain diogelu Cymru er mwyn sicrhau bod yr holl ganlyniadau'n cael eu dychwelyd a bod timau olrhain yn cael gwybod am ganlyniadau positif o fewn 24 awr i gynnal brawf.
Gwelliant 5 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cytuno y dylid defnyddio'r cyfnod atal byr fel cyfle i gynllunio a gweithredu cyfres newydd o ymyriadau yn seiliedig ar strategaeth lle bwriedir cael dim achosion o COVID-19 neu ddileu COVID-19 sy'n ceisio osgoi'r angen am donnau olynol o gyfyngiadau symud dros dro, gan ddefnyddio'r gwersi arfer gorau o Gymru ac yn rhyngwladol mewn meysydd fel, er heb fod yn gyfyngedig i: brofion torfol a rheolaidd gan gynnwys profi cysylltiadau asymptomatig; awyru; atal achosion rhag cael eu mewnforio o'r tu allan i Gymru; cymorth a chyngor ymarferol ac ariannol ar gyfer y rhai y mae angen iddynt ynysu; cyfathrebu cyhoeddus clir a chyson; ac ymestyn gwisgo mwgwd i sefyllfaoedd eraill.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliannau 6 a 7 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
Gwelliant 8 Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei pholisïau rheoli heintiau mewn ysbytai ar gyfer atal heintiau COVID-19 a geir mewn ysbytai ac ystyried sefydlu safleoedd dynodedig lle bwriedir cael dim achosion o COVID-19 i hwyluso triniaeth amserol a diogel ar gyfer canser ac anhwylderau eraill sy'n bygwth bywyd.
12 Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2019-20
(60 munud)
NDM7433 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2019-20.
Comisiynydd Plant Cymru: Adroddiad Blynyddol 2019-20
Comisiynydd Plant Cymru: Cyfrifon 2019-20
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
13 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 21 Hydref 2020